Clica una miniatura per anar a Google Books.
S'està carregant… Hiwmor y Cardide Emyr Llywelyn
Cap S'està carregant…
Apunta't a LibraryThing per saber si aquest llibre et pot agradar. No hi ha cap discussió a Converses sobre aquesta obra. Sense ressenyes
Ym 1934, cyhoeddwyd Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill, casgliad o ganeuon a cherddi ysgafn gan y digrifwr Idwal Jones. Cyflwynodd y gyfrol i Waldo, ei ffrind mawr ac un o gewri’r genedl: ‘I Waldo Goronwy Williams, am fy nghadw ar ddihun y nos yn cyfansoddi limrigau, lawer tro, pan ddylswn fod yn cysgu. Oni bai am ddynion o’i fath ef achubid Cymru rhag rhywbeth fel hyn.’ Wrth adolygu Hiwmor y Cardi dwedaf innau yn gwbl groes, sef bod Emyr Llywelyn yn y gyfrol hon wedi achub llawer o gyfoeth y genedl rhag diflannu am byth. Mae doniolwch, rhigymau ysgafn a hanesion troeon trwstan bob amser i’w croesawu gan bawb, a dyma gyfrol arall ddifyrrus iawn yn y gyfres ‘Ti’n Jocan’, wedi ei hysgrifennu gan Gardi. Mae yma storïau at ddant pawb, yr ifanc a’r hen: hiwmor a gonestrwydd plant o brofiad yr awdur fel athro; rhigymau a adroddwyd gan genedlaethau o blant ysgolion cynradd, a disgrifiad o gymeriadau amrywiol, fel y prifeirdd S.B. Jones a Sarnicol, beirdd gwlad fel Tydfor ac Isfoel a digrifwyr fel Eirwyn Pontsiân, gyda dyfyniadau o’u gwaith, heb sôn am y ‘nythaid o feirdd’ yng ngodre’r sir. Daw llu o atgofion wrth ddarllen ‘Y Dyn Dierth’ (S.B. Jones), darn a adroddwyd gan D.J. Lloyd, Pontarsais yn eisteddfodau’r wlad hanner canrif a mwy yn ôl er na feddyliais erioed fod y darn yn un mor hir. Mae’r awdur hefyd yn dyfynnu gwaith Idwal Jones a D. Jacob Davies - caneuon ysgafn y bu bri mawr arnynt wrth eu canu mewn llu o gyngherddau welcome home yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae llyfrau Idwal Jones a Jacob yn fy meddiant ers dyddiau fy mhlentyndod, llyfrau a ysgrifennwyd ‘nid i’r doeth a’r deallus ond i’r bobol gyffredin’, er mawr bleser i mi a’m tebyg. Trysoraf y llyfrau yma fel y gwnaf yn siŵr drysori Hiwmor y Cardi gan Emyr Llywelyn. Dyma gyfrol ddifyr iawn, cyfrol y dylai pob Cardi sy’n gwerthfawrogi hiwmor a doniolwch fod yn berchen arni, yn arbennig felly Gardi oddi cartref fel fi oherwydd y pleser ychwanegol a geir yn sgil yr atgofion ddaw wrth ei darllen. Pertany a aquestes sèriesCyfres ti'n jocan (2006)
A collection of jokes and humorous stories about the inhabitants of Cardiganshire, by Emyr Llewelyn. No s'han trobat descripcions de biblioteca. |
Debats actualsCap
Google Books — S'està carregant… GèneresSense gènere ValoracióMitjana: Sense puntuar.Ets tu?Fes-te Autor del LibraryThing. |